Saturday 11 April 2009

Yn y Dechreuad

Dwi'n bored, ma hi'n nos Sadwn, dwi'n ty, dwi'n gwrando ar y Stone Roses, dwi ddim yn arsed i neud paned a ma'r cathod ar goll yn rwle.  Ma'r diawled hefo gwell sosial laiff na fi - buggers. 

Does ne'm byd gwaeth na bod yn sgint na? Dim y crapi 'sgint' ma ffrind yn ddeud i ga'l allan o fynd am beint pan ma nhw jest isio esgus bach sydyn i aros yn ty i weld Britains Got Talent, ond yn sgint sgint.  Y math o sgint lle ma'r llythyrau bach coch yn dechrau glanio ar y mat, a ma'r galwadau gan 'Buchanan, Clark and Wells' yn dechrau cymryd ton bach yn fwy sinistr. Y math o sgint lle ti'n teimlo bo ti'n sduck yn fideo 'Ghost Town' y Sbecials a'n gwaredu'r tosti caws nesa fu raid mi lyncu. Neu ti'n gwerthfawrogi ffindio £1 a mo'n teimlo fel ffindio long lost cousin! A ti'n dechrau ame bod Jarvis Cocker di 'sgwennu 'Common People' fel biopic o dy fywyd.

Er hynny, dwi'n reit lwcus fyd, dwi'n cofio wythnos ola' coleg, pan oedd y rhai fwy dosbarth canol yn ein mysg yn yfed dybls, a fi'n mynd a fodka fatha paintstripper mewn handbag, gan fod on rhad ac yn neud y job!!  Ond, dwi'n ame odd Duw yn rwle'r wythnos yna, achos mi ffindis i fforti qwid ar lawr! Come on down! 

Ond ti'n gwbo be? Fyswn ni'm yn newid fy sefyllfa hefo neb yn y byd - iawn mae o'n shit peidio gallu mynd am beint os ti awydd, ond ma rwyn yn dysgu lot mwy. Pwy arall fydde'n ca'l y fath bleser o ga'l ceffyl yn dod i fewn ar 14-1 efo just £1 o sdec? Neu'n teimlo fel mod i di ca'l five star holide ar oll cal Nashynyl Ecspres o Wrecsam i Lunden retyrn am £10! Ar peth sy'n drist ydy'r ffaith fod rhai byth yn mynd i brofi'r Duckin and difin yma, fyse dad a mam yn gwaredu o feddwl fod 'Oliver' bach yn byw mewn ty tamp, neu 'Georgia' yn goro mynd ar y bys i Rhyl i seinio check dole.  

Dwi'n gweld y brathiad credyd yma'n blydi ffynni i fod yn onest, a dwi'n gobeithio ddeith y bancs a bob diawl o bob dim yn crashing down. Pan ti'n clywed rywyn yn deud "It'll only be one holiday this year";  "We wont be buying Organic any more", neu'r offyli patronising "Have you tried Lidl or Aldi?", wel sori, ond ma sympathi yn fflio drwy ffenesd. 

Y bobol bach sydd wedi cael ei brathu erioed, dydio'n ddim byd newydd i ni ga'l beliffs yn bywgth, neu'r 'detector van mythical' yn actchyli troi fynu! Y sdaff agency druan sydd yn rw sdatisdic coll ar cynta i fynd pan eith y cwmni tits up. Neu'r pobl sy'n llnau swyddi, a gweini'r troli te i'r 'Regional Sales Advisers', nhw di'r cynta i fynd bob tro. Dyma arwyr cymdeithas go iawn, nhw sy'n cadw i penau uwchlawr don pan ma'r mother of all Titanics yn suddo.  Nhw sydd wedi byw hyd yma, heb angen r'un 'Dispatches' neu 'Cutting Edge' i adrodd ei sdraeon. Nhw sydd wedi colli ei cynilon, a'i pensiynnau mewn limbo, diolch i soddin gamblo'r Cynghorwyr Sir a RBS'S y byd 'ma. Ond, yr union bobl yma fydd y rhai fydd yn agor drws ty efo paned, gwen a sgwrs yn syth ar ol i'r shitquake hitio. So na, gaw nhw sdopior rwtsch "No Earl Gray, Twinings Everyday from now on" a'i 'Coffee at Ritazza down to every Friday now", dwi am sdicio at neud y gorau o bob cyfle, a mwynhau bobl dim pres os ma' hynny'n neud fi'n filiyner neu ddim. 

Diawch, wrth son am baned dwi di codi awydd ar fy hun, ag ella roi ganied bach i Carol Vorderman i weld sud fedrai 'Consolidetio fy Loans' tra dwi wrthi fyd!

tattybyes
x

No comments:

Post a Comment