Thursday 23 April 2009

Platic Fantastic! (ella ddim leni!)


Dwi'm yn credu mod i am sgwennu hyn, a dwi'm yn credu fod pethau wedi cyrraedd y fath stad i mi orfod sgwennu hyn, ond...(ahhem..clirio fy nghwddw)...yndw dwi'n barod i ddeud hyn...mae Lerpwl yn haeddu bod ar ben Cynghrair Lloegr 'leni. (god, mi oedd hwnnen anodd!)


Waeth mi fod yn onest ddim - dwi'n armchair ffan go iawn, mor blastig a Barbie, ac yn (syrprais, syrprais) cefnogi tim Taggart (Fergie). Ond yn yr wythnose' diwetha ma United wedi mynd off thy boil dipyn bach, ac yn chwarae ffwtbol fydde'r Llanfair under ffives yn browd ohona fo. Ac yn waeth na'm byd, dydi Fergie ddim i weld yn poeni llawer, mae o i weld yn ddigon hapus yn snatcho rw 1-0 yn fama a fan acw gan ddeud rw shitty comment along y leins "We had some really good sbells". Rargien mawr,ma nhw fod yn lot, lot gwell na hynny! Be sydd di digwydd i'r swashbuckling ffwtbol sydd wedi bod, y cracking counter attacking ffwtbol oedd yn tynnu dwr i'r dannedd?


A Tevez druan, wedi bod mor dda hefo'r clwb ac yn cael ei drin yn waeth na'r Belgrano, (chi'n gweld be nes i'n fanne?!) a Ronaldo, y ceiliog dandi ddiawl, yn rw sugar dadi i Fergie. Dwi'n methu dalld hyn, o'r blaen doedd yr un chwaraewr yn fwy na'r clwb, nag awdurdod Fergie. Beckham, Van Nistelrooy, Heinze; i restru dim ond ychydig o'r rhai nath siarad yn gefn y gwersi, neu smoci tu ol i bike sheds Carrington. Ond dydi Fergie methu gwneud digon i gadw Ronaldo, mae on dechre troi fewn i'r Wenger nesa ar ol yr hogie ifanc ma! Iddy fo fynd i Real Madrid, a troi fewn i'r Cuprinol man dduda i - take the cash any day! Ond Fergie bach, o ni'n meddwl bo chi'n well na hyn?


Oce, oce, mi da ni ar ben y tabl, ac yn edrych yn debyg i ennill eto, ond chwarae teg, mae unrhyw exitment leni wedi dod gan Lerpwl, Chelsea, Aston Villa ag Everton (heb sdreicar call chwaith!). Mae United wedi edrych wedi blino, ac yn ddiog, ond ma Lerpwl ar y llaw arall wedi edrych yn llawn syniadau ac yn ymladd tan y funud ola.


iawn sgynaim lot i ddeud am y media orgie sy'n digwydd bob tro ma ne European night yn Anfield, a ma'r ffans yn lot, lot rhy sentimental a meddwl fod gan r'un clwb arall hanes , ond ma safon i peldroed nhw eleni wedi bod yn andros o neis i'r llygad. Ma Benitez yn real knob, (dwi unashemedly ar ochor Fergie efo hon) a mashwr yn pendraw wedi achosi i Lerpwl golli lot o bwyntiau (e.e Wigan, City a Stoke). Ond yn y misoedd dwetha ma, ma'r ffordd ma timau fel Lerpwl, Arsenal, Chelsea a ballu wedi mynd o'i chwmpas hi yn galanogol iawn.


Yn bersonol dwi'n meddwl mi eith Fergie yn ddisdaw bach (fynu grisie) ha' ma os na nhw'r dybl leni, a ddeith rw Mr Moyes, neu Mr Mourinho (?) i fewn i'r cader coch. Dwi'm isio fo fynd, ond dwi'm isio season arall o 'just gneud digon' fel sydd di digwydd eleni. Eniwe, mi fedrith ddigon ddigwydd rhwngth rwan a ddiwedd y tymor, a dwi'n amau fydd United wedi gollwn ychydig mwy o bwyntiau yn yr wythnosau sydd i ddod - ar ol i Fulham ddangos blueprint llwydiannus i bawb.


o wel, fyddai'm yn cwyno os fu ni'n ddigon lwcus i godi'r gwpan ar ddiwedd y tymor, a hyd yn oed hapusach os eith Newcastle a Borough lawr! (god, yndw dwi'n blydi blasdic!)

No comments:

Post a Comment