Thursday 16 April 2009

Tren Bisto S4C aaaahh!

Wel, dwi di bod yn bry bach prysur ers y tro dwetha i fi 'sgwennu. Dwi wedi fy anfarwogi ar y sgrin fach dydd Mawrth drwy serennu yn yr rhaglen hynod llwyddiannus..., na dim Q.I, Mastermind, na Miliyn-er ond... Wedi 7. Hefo'r lyfli, lyfli Gerallt Penant, nes i ddeud lyfli?! Mi oedd o'n ddiawl o foi clen, ac yn andros o down to earth - ella am i fod yn ganol pridd mor amal?! Anywes, achos gwaith o nhw yno, a fy nghael i i ddeud rw bytie am hanes y lle dw'n gweithio - nai ddim deud lle rhag ofn i fi alertio Terrorist threat y Cyngor.

Un peth nath fy nharo i am Gerallt oedd i fod o'n ddyn peniog, yn dalld i bethau, ond ddim mewn ffordd patronising sy'n rinwedd reit hyll mewn lot. Dwi'n ame fyse fo'n gallu bod yn Stephen Fry Cymru wrach, dim ond i fo tonio lawr y campness?! jusd joc! :)

Ond mi oedd o'n refreshing ca'l rwyn sy'n cyflwyno, ac yn actyli licio pobl, a gwybod bach am bob dim. Dim yn surffio drwy goridorau Parc Ty Glas, Llanishen ar ol cael benthyg glamp o armbands gan dad a mam. Dwi'm eisiau enwi enwau a bod yn anghwrtais, ond i weddill Cymru, mae'r ddiwylliant o gael swydd drwy 'gysylltiad' yn afiach ac yn dorcalonnus. Mae'r hwynebau diweddaraf ar y sgrin yn cael ei derbyn efo rw collecdif "Mab pwy di hwn dwed?" neu'r dychannol "Sgwn i syd gath hon y job?". A ma gyna nhw yr un faint o garisma ar gath hyll drws nesa. Ond ma rhywun o'n oedran i (24) yn sylweddoli fydd yn raid i ni dyfu fynu hefo'r self styled celebs yma. Mewn 50 mlynedd fydd yr un gwynebau wedi symud o Uned 5, Planed Plant, Wedi 7, Wedi 3, wedi graddio i gyflwyno Noson Lawen, D.C.D.C neu Pawb ai Farn, (er fod gyna nhw affliw o ddim).

A mae'n ddrwg gen i ond sut fedrith unrhyw Gymro feddwl ei hun yn seleb f.f.s?! Ma'r gymuned yn rhy fach hefo pawb yn nabod pawb. Ti'n gweld rw 'glic' yn cerdded o gwmpas Maes y 'Steddfod neu Maes B yn meddwl i bod nhw'n ddiawl o fois efo'i VIP bands, floaty dresses a Gio Goi tshirts. Ag yn meddwl byse nhw'n dal Bird Flu os fyse nhw'n digwydd dal eye contacd efo rw joscin neu Gofi. Ond dio'n ddiawl o bwys yn diwedd achos fu nhw - efo'i ddifyg dychymyg a'i bywydau mewn bybls, wedi llwyddo i ladd S4C ar hyn sydd wir yn dda amdani.

Mae angen talent newydd - ddim byd sydd yn teinted fel sydd heddiw, a bobl sy'n gwybod be ma nhw'n siarad amdan y fo. Mae angen mwy o ragleni dogfen, mwy o bethau ffeithiol, a mwy o bethau gwleidyddol. Mi rydym ni'n genedl diwylliannol, sy'n barod i lyncu teledu o safon. Wedi'r cwbl, ar ba sianel cenedlaethol terestrial y fyddai Talwrn y Beirdd yn cael ei darlledu, a'i mwynhau gan lawer? Dim yn Lloegr mi dybiaf i'n saff! Hefyd, pam ddim darlledu Sdeffodau Tafarn, y Rhyngolegol, pethau fatha Gwyl Rhuthun (biased!) ac ati? Mi fydde rhain yn rhad i'w cynhyrchu ac yn tynnu cynulleidfa fawr - wedi'r cwbl fyddai pawb yn gwylio er mwyn sbotio Anti Jean ar ben bwr', neu Yncl Bob yn canu'n chwil?

Mae'n debyg na fyddai hyn yn digwydd oherwydd dydy'm ni'm yn barod i gael ein gweld yn yfed yn gyhoeddys efallai?! Rhag ofn i Nain ein dal ni hefo peint? Neu aelodau eraill y capel sylwi arna ni efo cheeky fag yn ein bysedd? ....Get over it, have a laugh, a mashwr neith Nain sincio rw Sherry bach o flaen tan i gydymdeimlo fyd!

Iawn, dwi off i Barc Cibyn i brotestio am raglen i Gerallt Pennant, welai chi mewn bach.

No comments:

Post a Comment