wel, dwi wedi bod yn eistedd o flaen y cyfrifiadur rwan ers 10 bore ma, yn trio gorffen traethodau MA - ac i fod yn onest, dwi can't be arsed. Dwi'n edrych ac edrych ar y sgrin, dechrau taflu rw ddarnau o bapur, rearenjio'r ddesg (chwech gwaith so far), ac ma'r gath yn mynnu dod i eistedd reit ar ganol y ci-bord. ella bechod drosda fi ma hi...
o be dwi'n ddeall ma na 3 prif gategori i drefnnu gwaith;
1. y rhai trefnus, sy'n gwneud ei gwaith yn syth ac yn hynod o organised.
2. y rhai sy'n gwneud ei gwaith yn syth ond wedyn yn mynd on ag on am ba mor sdressed ma nhw, gan gymryd arny nhw fod nhw ddim wedi gwneud dim byd.
3. (grwp fi) y rhai sy'n gadael bob dim tan y funud ola oherwydd mi rydem ni'n neud yn well pan ma'r pwysau rili arnodd, ond yn gwneud addewid bob tro mod i am fod yn fwy trefnus "tro nesa".
ond y bugger yn fy nghynlluniau ydy, dydy cymdeithas ddim cweit yn gweithio fel hyn, ac yn gwasanaethu rhywun fel fi. Mae o fatha'r bobl ma sy'n codi am 8 (bobl di reteirio gan amlaf - god, arhoswch yn eich gwlau!) ac yn mynd o gwmpas efo sbring in there sdep, tra ti'n codi o gwmpas cychwyn Trisha/Jezza Kyle ac yn cymryd tan amser cinio i feddwl am gal brecwasd. Ma nhw'n blydi poen - ond yn rheoli cymdeithas yn anffodys. Ma swyddi gan amlaf o 9 - 5, wel, dwi'n licio'r syniad o 10 - 6 neu neud swp o waith mewn 3 dwrnod a wedyn ca'l pissio off i neud wbeth sy'n bach mwy o hwyl am weddill yr wythnos.
A bysiau a ballu, weli di ru'n ar ol 8 yn nos, ond cannoedd o'r buggers o 5 y bore ymlaen. God faint o weithiau dwi di bod yn sduc yn Rhyl (Rhyl, ffs!!) gan fod fy 'newis oriau cymdeithasol' wedi fy ngadael i lawr - a Traveline!
Dwi'n ame fod Bwrdd yr Iaith yn hoistio'r arwydd oren oriau agor ar ben yr Wyddfa efo 'Ar Gau - Closed' yn beamio dros y wlad am 6:58. Does dim posib mynd i nunlle ar ol 7. A ma hynnu'n hyd yn oed fwy amlwg pan mae gan Gymru gem midweek lawr yn Gaerdydd - ma'r gem yn gorffen 9:45, ond y trennau i'r gogledd yn gorffen am 9:48, a mond yn mynd mor bell a Gaer!! Gem Hungary - i was there....yn Shrewsbury am 4 y gloch yn y blydi bore fyd! Byse hyd yn oed Yorath ddim mor dedicated!
Na, mae'n debyg fod yr aderyn cynnar wedi hen fwyta'r pry genwair, ac mae dim ond byw i fynd i'n gwaith ydem ni bellach. Bws am 8 i gyrraedd erbyn naw, a liffd adre i arllwys ein hunain ar y soffa erbyn chwech. Blydi boring de?! Mae'n debyg ma'r unig adeg ma rhywun yn cael ychwanegu ychydig o frychni i'w bochau ydy'r penwythnos - ond ma hyd yn oed hynny yn y fantol rwan efo'r lol 'Binge drinking' - sydd yn fai y'r regime wythnosol 9-5 gyda llaw.
Pan ti'n cerdded lawr stryd Ewropeaidd, e.e Valenttthhhia (fel ma nhw'n deud (inconsisdentli) ar Sgorio) ma pawb allan dan berfeddion bore. Yn yfed gwin, buta allan, ac yn jusd 'cymysgu' - ond ma'n debyg fod lot ohona ni wedi colli'r awydd i 'gymysgu' yn y wlad yma. Faint o weithiau ma rhywun wedi cychwyn sgwrs efo 'Nes di weld Ant and Dec ar y teli nithiwr?', neu 'Guessia breuddwyd fi nithiwr?' cue lot o gocsio gwrando a 'Duw... dwnim' neu 'Argien, ennill car, wow' mewn ffordd hynod underwelming.
Ond, dyna erchyllterau amser mae'n debyg... masiwr ma fi sy'n odd yn pendraw, sgynai'm watch hyd yn oed. Ond fedrai'm helpu meddwl y bydde pethau'n lot gwell petai' pobl yn fwy relacsd, ac yn mynd i neud ei pethau'n hamddenol, heb edrych ar yr oriawr o hyd a byw i'r eiliad.
Eniwe, dwi'n give up ar y traethwad am rwan...geith y gath gadwn gynnes ar y laptop, sgynnai'm mynedd cau'n hyn i ffwrdd. Dwi off i'r pub i weld United Arsenal - ond yn fwy pwysig, I GYMYSGU. Welai chi yno!